01286 673337
post@dannadd-davies.co.uk
33 Bangor St, Caernarfon LL55 1AR
Yn dilyn y newidiadau i'r contract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol (GDC) ym mis Ebrill 2026, ni allwn gofrestru cleifion newydd yn uniongyrchol mwyach.
I gael mynediad at driniaeth ddeintyddol y GIG, defnyddiwch y Porth Mynediad Deintyddol (DAP)
Mae newidiadau eraill yn y contract yn nodi bod yn rhaid i gleifion nad ydynt wedi ymweld â'r practis ers dros 36 mis gael eu tynnu oddi ar restr cleifion y practis. Os nad ydych chi wedi ymweld â'r practis o fewn y 36 mis diwethaf a'ch bod yn dal yn awyddus i gael mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG, dylech gofrestru ar y Porth Mynediad Deintyddol lle byddwch chi'n cael eich dyrannu i bractis.
Rydyn ni’n darparu gwasanaeth croesawgar a chyfeillgar ac mae ein staff ffyddlon a phrofiadol wedi hyfforddi i roi cyngor i chi ar bob agwedd ar eich gofal deintyddol.
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau o archwiliadau rheolaidd i driniaeth gosmetig, yn cynnwys gwynnu’r dannedd, argaenau a choronau, mewnblaniadau a thriniaeth sianel y gwreiddyn.
Ein bwriad yw darparu triniaeth ddeintyddol o’r safon uchaf mewn amgylchedd hamddenol, cyfeillgar a gofalgar. Byddwn bob amser yn eich trin â pharch ac urddas ac mewn modd ystyriol. Rydyn ni’n addo gwrando ar eich sylwadau a’ch awgrymiadau ac ymateb yn agored iddynt.
Byddwn bob amser yn sicrhau amgylchedd diogel i’n cleifion ac i’n staff.
© 2026 Dannadd Davies Dental Practice - Gwefan gyda Delwedd